Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Mai 2017
Amser: 09.32 -
11.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4172
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Jayne Bryant AC Siân Gwenllian AC Vikki Howells AC Huw Irranca-Davies AC David Melding AC (Cadeirydd) Jenny Rathbone AC Simon Thomas AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Louise Andrewartha (Dirprwy Glerc) Wendy Dodds (Ymchwilydd) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) |
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, cytunodd y Pwyllgor i ethol Cadeirydd dros dro. Cytunodd yr Aelodau y byddai David Melding yn cadeirio'r cyfarfod hwn ac y byddai rôl Cadeirydd y Pwyllgor yn cylchdroi rhwng grwpiau'r pleidiau a gynrychiolir ar y Pwyllgor hyd nes y penodir Cadeirydd parhaol.
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad ar sut y cyflenwodd Llywodraeth Cymru y Strategaeth Coetiroedd i Gymru, a chytunwyd ar restr o dystion llafar.
Trafododd yr Aelodau yr adroddiad a chytunwyd i'w gyhoeddi ym mis Mai.
Trafododd yr Aelodau y llythyr ar effaith y Bil Diddymu Mawr a chytunodd i ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Bydd ymateb y Pwyllgor yn nodi ei syniadau cychwynnol ar y mater hwn a goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig mewn perthynas ag adroddiad diweddar y Pwyllgor ar ddyfodol rheoli tir yng Nghymru.